Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin
Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.
Mae Mudiad Meithrin yn angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl.
Ar brynhawn Sadwrn 2il Hydref fe ddathlodd Mudiad Meithrin ei Seremoni Gwobrau flynyddol yn Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y cylchoedd a’r meithrinfeydd dydd ac roedd y gyflwynwraig deledu boblogaidd Mari Lövgreen yn cyflwyno’r seremoni yn slic a phroffesiynol iawn.
Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Mae’r Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar. Mae’r modd arwrol mae’r staff wedi ymdopi i gynnal y gwasanaeth i blant staff allweddol yn ystod y pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad gan adeiladu eleni ar ymgyrch yn ystod mis Medi i dynnu sylw at waith pwyllgorau. Roedd hi’n hyfryd cael cyfle i gyd-ddathlu’r arfer dda sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru, dod at ein gilydd i wneud hynny a darlledu popeth ar y we hefyd.”
Gwobrau 2021 Mudiad Meithrin – Enillwyr 2021
Arweinydd (Noddwyd y categori gan Gyngor Sir Ceredigion)
- Kate Jenkins (Cylch Meithrin Tedi Twt, Caerffili)
- Hannah Lines-Zechmann (Cylch Meithrin Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin)
- Sioned Wyn Jones Roberts (Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys)
Chwarae a Dysgu Tu Allan
- Cylch Meithrin Eco Tywi, Sir Gaerfyrddin
- Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd
- Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin
Cynorthwy-ydd
- Carys Price (Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys)
- Lindsay Turner (Cylch Meithrin Pontarddulais, Abertawe)
- Karlie Jo Davies (Cylch Meithrin Penderyn, Rhondda Cynon Taf)
Cylch Meithrin Y De-ddwyrain
- Cylch Meithrin Evan James – Rhondda Cynon Taf
- Cylch Meithrin Camau Cyntaf Llanhari – Rhondda Cynon Taf
- Cylch Meithrin Nant Dyrys – Rhondda Cynon Taf
Cylch Meithrin Y De-orllewin a’r Canolbarth (Noddwyd y categori gan Gyngor Sir Ceredigion)
- Cylch Meithrin Crymych, Sir Benfro
- Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys
- Cylch Meithrin Tal-y-Bont, Ceredigion
Cylch Meithrin Y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth (Noddwyd y categori gan Gyngor Sir Powys)
- Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys
- Cylch Meithrin Drenewydd, Powys
- Cylch Meithrin Pontrobert, Powys
Cylch Meithrin y Gogledd-orllewin (Noddwyd y categori gan Ateb)
- Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd
- Cylch Meithrin Dolgellau, Gwynedd
- Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd
Cylch Meithrin Gorau Cymru
- Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd
Dewin a Doti
- Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion
- Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gaerfyrddin
- Cylch Meithrin Mornant, Sir y Fflint
Meithrinfa Ddydd (Noddwyd y categori gan Gofalwn Cymru
- Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin
- Meithrinfa Seren Fach, Gwynedd
- Meithrinfa Y Cam Cynta, Sir Gaerfyrddin
Pwyllgor (Noddwyd y categori gan Darwin Gray)
- Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys
- Cylch Meithrin Beddau, Rhondda Cynon Taf
- Cylch Meithrin Dyffryn Banw, Powys
Gwirfoddolwr (Noddwyd y categori gan Panel Cyfryngau Cymru)
- Eifiona Wood (Cylch Meithrin Abersoch, Gwynedd)
- Siôn Hughes, (Cylch Meithrin Bwcle, Sir y Fflint)
- Michelle Killey (Cylch Meithrin Tonyfelin, Caerffili)
Cynhwysiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Noddwyd y categori gan S4C)
- Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion
- Cylch Meithrin Y Bedol, Sir Gaerfyddin
- Cylch Meithrin Myrddin, Sir Gaerfyrddin