Neidio i'r prif gynnwys

Dan Luffman

Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Dydd

Mae Dan yn gweithio’n bennaf gyda phobl â gofynion cymorth cymhleth a/neu ymddygiad a allai fod yn heriol. Mae’n dwlu ar chwaraeon a ffitrwydd, felly mae’n cael ei baru â phobl sydd â diddordebau tebyg.

Holi ac Ateb gyda Dan

Wyt ti’n meddwl bod angen mwy o ddynion yn gweithio yn y sector?

Yn sicr. Do’n i ddim yn gwybod bod prinder, ond dwi wedi bod yma ers 12 mlynedd ac roedd lot mwy o ferched ar y dechrau. Dwi’n credu bod llawer o ddynion mas ‘na a allai wneud cyfraniad mawr yn y swydd hon.

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am y bobl rwyt ti’n eu cefnogi?

Dwi wir yn mwynhau ein diwrnodau mas. Ry’ ni’n mynd i’r gampfa gan fod y ddau ohonom ni’n hoffi cadw’n heini - rwy’n helpu gyda’r pwysau a’r rhedeg, gan roi cyngor hefyd.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started