1
00:00:00,287 --> 00:00:03,040
Ro'n i wir eisiau bod yn Ofodwr
ond doedd dim llawer o agoriadau
2
00:00:03,047 --> 00:00:06,267
i ferch 18 oed heb ormod
o gymwysterau ac fe wnes i dreulio'r
3
00:00:06,293 --> 00:00:10,880
38 mlynedd nesaf yn gweithio
gyda chleifion seiciatryddol.
4
00:00:11,660 --> 00:00:14,307
Rhywbeth rydw i wedi'i wneud erioed
ac yn rhywbeth mae gen i angerdd go iawn amdano.
5
00:00:14,607 --> 00:00:17,523
Mae'n rhaid i chi fod yn dipyn o feistr ym mhob maes.
6
00:00:17,690 --> 00:00:22,843
O bopeth, o nyrsio ymarferol i feddwl y tu allan i'r bocs,
7
00:00:23,050 --> 00:00:27,957
gweithio allan gwahanol ffyrdd
i bobl gael bywyd boddhaol a bywyd pleserus.
8
00:00:28,130 --> 00:00:31,870
Rydyn ni wedi cael pyllau padlo aer
ac mae pobl â'u trowsus wedi rholi uwchben eu pengliniau,
9
00:00:31,903 --> 00:00:34,803
yn trochi bysedd eu traed yn y dŵr
ac yn esgus bod ar lan y môr am ddiwrnod.
10
00:00:34,937 --> 00:00:38,283
Mae angen synnwyr digrifwch arnoch chi,
mae angen i chi fod yn ymroddedig.
11
00:00:38,303 --> 00:00:40,317
Nid yw'n swydd naw i bump ond byddwch
12
00:00:40,330 --> 00:00:45,797
chi'n ei wneud gyda thîm o bobl
sy'n caru'r hyn maen nhw'n ei wneud ac sy'n byw ar ei gyfer.
13
00:00:46,217 --> 00:00:50,683
Ac rwy'n adnabod Cynorthwywyr Gofal
a fyddai'n mynd â chryn dipyn o'r preswylwyr adref
14
00:00:50,690 --> 00:00:53,277
gyda nhw pe gallent oherwydd
bod ganddynt y cwlwm cryfach hwnna â nhw.
15
00:00:53,297 --> 00:00:56,523
Byddwn i'n dweud mai'r peth pwysicaf
sydd ei angen arnoch chi i weithio
16
00:00:56,543 --> 00:00:58,963
ym maes gofal cymdeithasol yw caredigrwydd.
17
00:00:59,017 --> 00:01:03,717
I fod yn garedig, eisiau gofalu
am bobl eraill a bod yn neis iddyn nhw.
18
00:01:03,737 --> 00:01:05,357
Os oes gennych barodrwydd,
19
00:01:05,370 --> 00:01:09,477
os ydych chi'n caru pobl ac os byddwch chi'n ymladd
eu cornel pan na allant ei wneud eu hunain,
20
00:01:09,570 --> 00:01:10,677
yna dyma'r swydd i chi.
21
00:01:11,563 --> 00:01:14,880
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru