Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

20 Hydref 2021

Tregyrfa

Mae GIG Cymru wedi lansio platfform arloesol, cwbl ddwyieithog i arddangos yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Pentref digidol yw Tregyrfa sy’n caniatáu i ddysgwyr lywio eu ffordd trwy gyfres o adeiladau i gael gwybodaeth am wahanol rolau iechyd a gofal. Gall dysgwyr gyrchu adnoddau, gwylio fideos a darllen blogiau i gael mewnwelediad i sut beth yw gweithio yn y sectorau. Mae awgrymiadau cyfweliad hefyd ar gael i helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith.

Mae’r platfform rhad ac am ddim wedi’i greu ar gyfer dysgwyr a phobl ifanc 14-16 oed.

Ewch i Tregyrfa i weld pa lwybr gyrfa yr hoffech chi ei archwilio!

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.