Neidio i'r prif gynnwys
Blogiau llysgenhadon

07 Tachwedd 2025

Gwasanaeth gofal plant Sophie

Mam a merch yn gwenu i'r camera

Fi yw Sophie, sy’n rhedeg ‘Little Learners Childcare’ yn ardal wledig Gorllewin Cymru. Rwy’n gofalu am blant yn fy nghartref, gan ddefnyddio dulliau Reggio, Steiner a Montessori i’w cefnogi. Mae gen i radd BA gydag anrhydedd a gradd Meistr mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar a Seicoleg Babanod/Plentyn. Rwy wastad wedi bod yn chwilfrydig am sut mae plant yn meddwl, yn dysgu ac yn profi’r byd.

Sut y cyrhaeddais i yma

Ar ôl gadael yr ysgol, astudiais fy ngraddau tra’n gweithio mewn meithrinfeydd fel nani ac fel gwarchodwraig plant. Treuliais hefyd ddwy flynedd dramor fel Au Pair. Ar ôl dros ddegawd yn gweithio, astudio a theithio, roeddwn i wastad yn dod yn ôl at warchod plant. Roedd yn cynnig hyblygrwydd, sefydlogrwydd ariannol, ac yn bennaf oll, roedd yn teimlo’n fwy gwerth chweil.

Pan symudais i Gymru ac yn cael fy merch yn 2021, roedd cofrestru gyda Arolygiaeth Gofal Cymru yn gam naturiol. Er fy mod wedi cofrestru gyda Ofsted ers 2013, roedd yn rhaid i mi ddechrau’r broses eto. Fe wnes i gyfuno fy mhrofiad, cymwysterau a brwdfrydedd i greu’r lleoliad roeddwn i wedi breuddwydio amdano erioed.

Diwrnod yn fy mywyd

Mae pob diwrnod yn cynnwys diwallu anghenion corfforol y plant – bwydo, newid cewynnau a’u cadw’n ddiogel. Unwaith y bydd y rhain wedi’u diwallu, mae’r diwrnod yn llifo’n naturiol. Dydw i ddim yn dilyn trefn llym, er bod amseroedd bwyd yn tueddu i fod yn gyson.

Mae ein gweithgareddau’n newid gyda’r tymhorau, ac rydyn ni’n treulio llawer o amser yn yr awyr agored. Rwy’n defnyddio dull Reggio o ‘1000 iaith y plentyn’ i’w helpu i fynegi eu hunain mewn sawl ffordd greadigol. Rwy’n hyrwyddo awyrgylch tawel, heb frys lle mae lleisiau’r plant yn cael eu clywed. Maen nhw’n helpu i ddewis gweithgareddau ac ymweliadau ac mae ganddynt fynediad at deganau ac adnoddau sy’n adlewyrchu eu diddordebau. Mae’r dull hwn yn helpu plant i deimlo’n sefydlog ac yn ddiogel.

Eiliad fydd wastad yn aros gyda fi

Pan wnes i ddechrau, doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n dod mor agos at y teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw. Dyw e ddim fel busnes arferol – rwyt ti’n dod yn rhan o fywyd pob plentyn ac yn teimlo’n agos iawn atyn nhw. Os wyt ti’n mwynhau bod o gwmpas plant ac yn chwilio am swydd sy’n gwneud gwahaniaeth, gallai gwarchod plant fod yn berffaith i ti.

N/A

Pam rwy’n caru gweithio mewn gofal

Pan wnes i ddechrau, doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n dod mor agos at y teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw. Dyw e ddim fel busnes arferol – rwyt ti’n dod yn rhan o fywyd pob plentyn ac yn teimlo’n agos iawn atyn nhw. Os wyt ti’n mwynhau bod o gwmpas plant ac yn chwilio am swydd sy’n gwneud gwahaniaeth, gallai gwarchod plant fod yn berffaith i ti.

Beth fyddwn i wedi hoffi gwybod

Pan wnes i ddechrau, doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n dod mor agos at y teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw. Dyw e ddim fel busnes arferol – rwyt ti’n dod yn rhan o fywyd pob plentyn. Os wyt ti’n mwynhau bod o gwmpas plant ac yn chwilio am swydd sy’n gwneud gwahaniaeth, gallai gwarchod plant fod yn berffaith i ti.

Cyflwyniad i ofal plant

Rhaglen hyfforddiant am un ddiwrnod am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n cynnwys yr hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.

Gofal Plant yn y Cartref

Ewch yma am fwy o wybodaeth am ofal plant

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.