Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ein hymgyrch cartrefi preswyl i blant rhwng 10 a 30 Mawrth.

Dysgu mwy

Gofal cymdeithasol

17 Ebrill 2025

Cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

A picture of Dominique Lima a qualified social services practitioner.

Mae cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (YGC) Lefel 4 City & Guilds yn gymhwyster dysgu seiliedig ar waith am ddwy flynedd. Mae ar gael drwy gyllid fframwaith prentisiaethau ac mae wedi'i ddarparu ers mis Medi 2022 yn ne-ddwyrain a de-orllewin Cymru gan ddau sefydliad addysg bellach.

Fel dathliad o gyflawni cymhwyster YGC carfan un (peilot), cynhaliodd Castell-nedd Port Talbot ddigwyddiad ar 4 Medi 2024. Mynychwyd y digwyddiad gan y myfyrwyr, eu rheolwyr, tiwtoriaid o Goleg Gŵyr Abertawe a Choleg Penybont, ac addysgwyr ymarfer a asesodd y myfyrwyr yn eu gweithle. Roedd cynrychiolwyr o gonsortiwm YGC, Gofal Cymdeithasol Cymru a chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot hefyd yn bresennol.

Arweiniodd llwyddiant y garfan gyntaf at ehangu'r cyllid prentisiaeth i gefnogi carfannau'r dyfodol. Dechreuodd ail carfan eu rhaglen dwy flynedd ym mis Medi 2023 a dechreuodd y trydydd carfan ar flwyddyn un eu rhaglen dwy flynedd ym mis Medi 2024.

Mae'r parhad hwn yn golygu y gall mwy o weithwyr YGC elwa o'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr, i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau ar gyfer eu rolau a'u rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r gwersi a ddysgwyd o garfan un (peilot) wedi helpu i lunio rhaglen fwy effeithiol a chynhwysol ar gyfer myfyrwyr y dyfodol. Trwy adeiladu ar y profiadau hyn, rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu a datblygu rhagorol sy'n cefnogi twf proffesiynol ein holl weithwyr YGC.

Llwyddiant arall y rhaglen beilot yw, ym mis Ebrill 2024, cadarnhaodd y Brifysgol Agored y byddent yn derbyn cymhwyster galwedigaethol Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol Lefel 4 City and Guilds sy'n cyfateb i'w dyfarniad Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol Prifysgol Agored yng Nghymru, gan ganiatáu mynediad i flwyddyn dau o'r radd gwaith cymdeithasol.

Mae hyn yn golygu bod cyfle i ddatblygu gyrfa i'r YGC hynny sy'n dymuno symud eu gyrfa ymlaen i waith cymdeithasol.

Mae'r Brifysgol Agored wedi cadarnhau bod un person o gynllun peilot City & Guilds wedi dechrau blwyddyn dau y radd gwaith cymdeithasol yn llwyddiannus. Mae astudiaeth achos fideo fel rhan o'n rhaglen waith Gofalwn Cymru wedi'i datblygu, ac mae disgwyl iddi gael ei chyhoeddi. Mae'r astudiaeth achos isod yn enghraifft o ehangu mynediad i addysg uwch ac i ddangos gwerth prentisiaethau lefel uwch. 

Mae'r rhaglen wedi annog cydweithio ymhlith yr awdurdodau lleol ledled Cymru, colegau AB, corff dyfarnu, addysgwyr practis a Gofal Cymdeithasol Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi creu rhaglen o ansawdd uchel sydd nid yn unig yn codi proffil y cymhwyster SSP ond sydd hefyd yn gosod safon ar gyfer addysg a hyfforddiant gwaith cymdeithasol.

Stori Dominique

Darllenwch fwy am stori Dominique Lima yma

Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Darganfyddwch fwy am y rôl

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.