Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ein hymgyrch cartrefi preswyl i blant rhwng 10 a 30 Mawrth.

Dysgu mwy

Gofal cymdeithasol

18 Mawrth 2025

“Mae fy swydd yn golygu cymaint i mi, i allu gwneud gwahaniaeth go iawn”

Dominique

Os ydych chi'n breuddwydio am wneud gwahaniaeth, yna efallai mai gyrfa werth chweil mewn gwaith cymdeithasol yw'r cam nesaf y dylech ei gymryd

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i roi cynnig ar rywbeth newydd, neu i ddilyn breuddwyd newydd.

Newidiodd Dominique Lima ei meddwl ar ôl dechrau gydag uchelgeisiau mawr i ddod yn athrawes, a dilynodd yrfa werth chweil a boddhaus mewn gwaith cymdeithasol.

Hi oedd y person cyntaf i symud ymlaen i ail flwyddyn gradd gwaith cymdeithasol ar ôl cwblhau’r cwrs Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (SSP) a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac erbyn hyn mae Dominique wedi rhannu ei thaith gyrfa galonogol cyn Diwrnod Gweithiwr Cymdeithasol y Byd ar yr 18fed o Fawrth. Mae’n gobeithio ysbrydoli pobl sydd ag angerdd am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl i ddilyn gyrfa a bod yn falch ohoni.

"Dechreuodd fy ngyrfa drwy gwblhau gradd yn y blynyddoedd cynnar, gyda'r bwriad o fynd i ddysgu," meddai Dominique.

“Fodd bynnag, dros amser, sylweddolais nad oedd addysgu yn addas i mi, a byddai’n well gennyf weithio gyda phobl ifanc mewn swyddogaeth wahanol.

“Dechreuais weithio mewn cartref gofal preswyl i bobl ifanc ag anableddau, rhwng 16 a 18 oed. Yn ystod y cyfnod hwn, sylweddolais fod gennyf angerdd enfawr dros gefnogi pobl ifanc, a phenderfynais archwilio’r posibilrwydd o ddod yn weithiwr cymdeithasol.

"Dysgais am y cwrs SSP, cymhwyster Lefel 4 yr oeddwn yn ffodus i allu ei gwblhau tra'n gweithio yn fy rôl awdurdod lleol bresennol fel cynghorydd personol ar y tîm 16+. Roeddwn yn cael fy rhyddhau o'r gwaith un diwrnod yr wythnos i gwblhau fy astudiaethau yng Ngholeg Penybont, ochr yn ochr â chyrsiau ar-lein."

Dominique and Tom
Mae'r cyfle i Dominique ennill ei chymhwyster tra'n gweithio wedi bod yn ddull hyblyg o ddysgu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn y llun: Dominique Lima a chydweithiwr Tom Sander

"Fe wnes i fwynhau'r hyblygrwydd yn fawr, a'r gallu i ennill arian a dysgu ar yr un pryd. Doedd hi ddim yn hawdd jyglo swydd amser llawn, bod yn fam wych ac astudio ar gyfer cymhwyster, ond fe wnes i ddyfalbarhau a chael llawer o gefnogaeth gan deulu a thiwtoriaid ar bob adeg."

"Os galla’ i ei wneud e, gall unrhyw un achos ei fod mor ymarferol. Gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun, a bod ar unrhyw lefel pan fyddwch yn dechrau. Doedd rhai pobl ar y cwrs ddim wedi llwyddo yn eu cymwysterau mathemateg eto, ond roeddent yn gallu eu cyflawni diolch i’r cymorth sydd ar gael a chymwysterau fel Sgiliau Hanfodol Cymru."

Mae’r cwrs SSP wedi’i greu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Brifysgol Agored, a Choleg Penybont. Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar yr ochr ymarferol, ac mae'n asesu gwybodaeth a sgiliau ymarferol myfyrwyr trwy ddysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.

Mae Dominique wedi dilyn proses trosglwyddo credydau'r brifysgol i ddefnyddio'r credydau a enillwyd o'r cymhwyster SSP sy’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd mewn gwaith cymdeithasol. Mae hyn yn golygu ei bod wedi gallu dechrau'r rhaglen radd mewn gwaith cymdeithasol ym mlwyddyn dau, tra'n datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a'r sgiliau sy'n sail i rôl yr ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol.

"Y peth sy'n rhoi'r boddhad mwyaf am fy swydd yw gweithio gyda phobl ifanc, eu cefnogi i adael gofal, a'u gweld yn cymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain," ychwanegodd Dominique.

“Maen nhw'n cadw mewn cysylltiad â ni, ac rydw i'n eu gweld nhw'n ffynnu oherwydd bod ganddyn nhw'r offer i fyw i'w potensial gydag ymdeimlad gwych o les personol.

Dominique headshot
Os ydych chi'n breuddwydio am swydd lle gallwch chi gael effaith ystyrlon fel Dominique, yna efallai mai gwaith cymdeithasol yw'r yrfa berffaith i chi. Yn y llun: Dominique Lima

"Roeddwn i'n arfer gwylio'r amser yn mynd heibio o weithio mewn swyddfa, ond mae'r swydd yma mor hyblyg - gallaf fod allan gyda pherson ifanc. Does dim un diwrnod byth yr un fath, dydych chi byth yn diflasu, dydych chi byth yn gwylio'r cloc ac rydych chi'n gwybod eich bod chi'n gwneud gwahaniaeth go iawn."

“Mae’r llwybr newydd hwn o ddysgu seiliedig ar waith wedi bod o fudd i’m rôl bresennol, ac yn sicr mae wedi rhoi’r offer hanfodol i mi sydd wedi golygu fy mod wedi tyu yn bersonol a’n broffesiynol.

“Drwy gyllid Llywodraeth Cymru, rwyf wedi datblygu gwell dealltwriaeth o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfwriaeth a fframweithiau eraill sy’n allweddol i’r swydd.

"Rwy'n fwy hyderus yn ymarferol, ac mae'n bendant wedi rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i mi allu cefnogi pobl ifanc ac oedolion yn y gymuned leol. Gall plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wynebu nifer o heriau a rhwystrau a all effeithio ar eu lles.

"Rwy'n meddwl mai'r bobl ifanc rydw i wedi'u cefnogi yw'r stori lwyddiant go iawn. Mae fy swydd yn golygu cymaint i mi, i allu cael effaith ystyrlon a gweithio gydag ystod o wasanaethau i rymuso pobl ifanc i ddod yn gryf ac yn wydn. Dyma'r rhan gorau o fy swydd."

"Mae'r llwybr astudio newydd hwn wedi gosod y sylfaen ar gyfer cefnogi pobl yng Nghymru. Mae cael y cyfle yma i ennill fy nghymhwyster wrth weithio wedi bod yn brofiad hyblyg ac anhygoel sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

"Dyma'r unig ffordd y gallwn wneud y cymhwyster hwn.”

Os oes diddordeb gyda chi i ddod yn weithiwr cymdeithasol, mae sawl llwybr y gallwch eu dilyn.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.