Abbi-Lee Davies
Pennaeth Gwasanaeth
Mae Abbi-Lee wedi bod yn gweithio yn M&D Care ers saith mlynedd. Dechreuodd fel gweithiwr cymorth cyn cwblhau cynllun Rheolwr Dan Hyfforddiant cyflym, gan ennill ei chymwysterau wrth weithio. Mae hi nawr yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r cartrefi preswyl yn ne-orllewin Cymru.
Holi ac Ateb gyda Abbi-Lee
Sut est ti i mewn i’r sector?
Cyn gweithio mewn gofal, ro’n i’n trin gwallt, felly doedd gen i ddim cymwysterau i weithio yn y sector. Ond roedd cael llwybr datblygu’n bwysig i fi, a dwi wedi gallu cael llawer o hyfforddiant tra’n gweithio.
Oes rhywbeth nad yw pobl yn ei wybod am dy waith di?
Mae pobl yn meddwl mai dim ond gofal personol yw gofal cymdeithasol, ond mae pob diwrnod yn wahanol. Ry’ch chi’n cefnogi pobl sydd eisiau bod yn annibynnol a mynd nôl allan i’r gymuned, gan gynnwys mynd â nhw i siopa bwyd neu i’r sinema.
Pa rinweddau sydd eu hangen i weithio mewn gofal cymdeithasol?
Mae angen i chi fod yn ofalgar, yn gydymdeimladol ac yn llawn cymhelliant, ac yn rhywun sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.