Fel Gweithiwr Cartref Gofal, byddwch chi’n darparu gofal a chymorth i breswylwyr, ac yn eu helpu hefyd i gadw eu hannibyniaeth ac i wneud dewisiadau.
Cartrefi Gofal
Mae cartrefi gofal preswyl yn cynnig amgylchedd cartrefol a chroesawgar i bobl lle gallan nhw gael y gofal a’r cymorth ychwanegol hwnnw, sydd eu hangen arnyn nhw.
Gwybodaeth am gartrefi gofal
Cartrefi gofal, a elwir yn gartrefi gofal preswyl hefyd. Maent yn cael eu hystyried fel opsiwn i bobl nad ydyn nhw’n gallu byw yn eu cartref eu hunain mwyach (hyd yn oed gyda chymorth gan ffrindiau, teulu neu ofalwyr cyflogedig), neu bobl â chyflyrau meddygol cymhleth sydd angen sylw arbenigol.
Mae rhai cartrefi gofal yn cynnig darpariaeth i unrhyw un sydd angen gofal bob awr o’r dydd ym mhresenoldeb nyrs gofrestredig. Yn aml, mae’r rhain yn cael eu galw’n gartrefi nyrsio ac mae rhai’n darparu eu gwasanaethau’n benodol ar gyfer y rheini sydd ag anghenion penodol. Nid yw pob cartref gofal yn darparu mathau arbenigol o ofal fel gofal seibiant, gofal nyrsio neu ofal dementia, felly mae’n bwysig cofio hyn wrth ymchwilio.
Yn ogystal â llety, maen nhw’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i breswylwyr eu mwynhau. Gall hynny gynnwys teithiau am y dydd, ymarferion a gweithgareddau diwylliannol a helpu preswylwyr i fyw’r bywyd maen nhw ei eisiau.
Rheoleiddio cartrefi gofal
Yng Nghymru, rhaid i gartrefi gofal fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, sy’n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.
Edrychwch ar rai o'r swyddi y gallech chi eu gwneud mewn cartrefi gofal
Fel Rheolwr Cartref Gofal, byddwch yn pennu cyfeiriad gweithredol a threfnu bod y cartref yn gweithredu’n effeithiol.
Fel Nyrs Cartref Gofal, byddwch chi’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i breswylwyr sy’n aml ag anghenion iechyd cymhleth.
Fel Cydlynydd Gweithgareddau Cartref Gofal, byddwch chi’n gyfrifol am greu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y preswylwyr yn y cartref gofal.