Neidio i'r prif gynnwys

Gwasanaethau Gofal Cartref

Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain.

Gwybodaeth am Gymorth yn y Cartref

Wrth i’n poblogaeth heneiddio, mae gofal yn y cartref yn dod yn hanfodol i bobl ledled Cymru. Mae helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau, eu teulu a’u ffrindiau yn un o agweddau pwysicaf y gwasanaeth hwn.

Mae gofal cartref yn ofal wedi’i gynllunio ac yn cael ei ddarparu i ddiwallu anghenion unigol. Mae’n addas ar gyfer pob math o bobl, fel pobl hŷn, pobl â salwch difrifol, pobl sy’n gwella ar ôl llawdriniaeth, a phobl ag anableddau. Drwy adeiladu ar anghenion ac arferion pobl, mae’n eu helpu i aros yn eu cartrefi mewn ffordd ddiogel a chefnogol.

Gellir ystyried rhai rolau yn ddewis amgen i gartrefi gofal, ac er eu bod yn debyg o ran sut maent yn cefnogi pobl i fyw eu bywydau yn y ffordd y maent yn dymuno gwneud, gall y model gofal dydd-i-nos a ddarperir gan gartrefi gofal fod yn fwy addas. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gartrefi gofal (link to care home settings page) ar ein tudalen wybodaeth bwrpasol.

Mae amrywiaeth o rolau ar gael yn y gwasanaeth hwn sy’n ei wneud yn addas i’r rheini sy’n awyddus i ennill profiad, yn ogystal â phobl sydd eisoes â phrofiad a chymwysterau.

Rheoleiddio cymorth yn y cartref

Mae rhai darparwyr gwasanaeth, fel gweithwyr gofal cartref, yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae pob rheolwr a gweithiwr sy’n darparu Gwasanaethau Gofal Cartref wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy’r gofrestr ar-lein ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.


Edrychwch ar rai o'r rolau y gallech chi eu gwneud ym maes cymorth yn y cartref

Fel Cydlynydd Gwasanaeth Gofal Cartref, byddwch yn cydlynu gwaith tîm o Weithwyr Gofal Cartref ac Uwch Weithwyr Gofal Cartref.

Fel Rheolwr Gofal Cartref, byddwch yn pennu'r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu'r gwaith o redeg y gwasanaeth yn effeithiol. Byddwch yn gwneud yn siŵr bod staff yn darparu'r gofal a'r cymorth gorau posib.

Fel Gweithiwr Ailalluogi, byddwch yn darparu cymorth a/neu therapi tymor byr hanfodol i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Bydd hyn yn anelu at eu helpu i ailddysgu sgiliau i'w cadw'n ddiogel a dod o hyd i'w hannibyniaeth.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.