Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Gofal plant. Yma i adeiladu dyfodol eich plant a’ch un chi.
Diolch yn fawr iawn i Tracey a Hollies Daycare Nursery am ein helpu i greu'r ffilm arbennig hon.
Lorna Jones
Rheolwr Cartref Gofal
Ar ôl ymuno â'r sector mewn rôl ran-amser, mae Lorna wedi bod yn gweithio ym maes gofal ers dros 10 mlynedd ond mae'n difaru na wnaeth hi ystyried yn llawer cynt. Ochr yn ochr â’i rôl fel rheolwr Cartref Gofal Meddyg Care i gleifion sydd â dementia yng Nghriccieth, mae’n rhannu ei hangerdd dros y sector trwy ei rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru.
Tracey Jones
Rheolwr Meithrin
Ar ôl gadael y brifysgol, gwnaeth Tracey gais am swydd fel Cynorthwyydd Meithrin ym Meithrinfa Gofal Dydd Hollies. Yn ystod yr amser hwnnw, llwyddodd i gwblhau ei chymwysterau a symud ymlaen ddod yn Rheolwr Meithrin.
Sam Tanner
Dirprwy Reolwr
Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, aeth Sam i'r coleg i gwblhau ei Lefel 3 CACHE yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ar ôl bod eisiau gweithio gyda phlant erioed. Dechreuodd ym Meithrinfa Gofal Dydd Hollies fel Nyrs Feithrin ac yna gweithiodd ei ffordd i fyny i ddod yn Ddirprwy Reolwr.
Rachel Williams
Uwch Weithiwr Teulu
Ymunodd Rachel â'r sector fel Cynorthwyydd Dosbarth a sylweddolodd yn gyflym gymaint yr oedd hi'n mwynhau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a'u gweld yn datblygu. Mae hi bellach yn cefnogi teuluoedd trwy Dechrau’n Deg yn Ynys Môn ac yn rhannu ei hangerdd dros weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant fel Llysgennad Gofalwn Cymru.
Os wyt ti'n berson naturiol gofalgar, gydag empathi, gall gyrfa mewn gofal cymdeithasol dy helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Diolch Cartref Gofal Llys Brocastle.
Claire Beattie, Monmouthshire County Council
“Yn fwy na dim, mae am yr angerdd hwnnw. Mae am yr ysfa a'r awydd hwnnw yn rhywun i fod eisiau bod yn Weithiwr Cymdeithasol - eisiau gwneud y gorau y gallant i gefnogi teuluoedd."
Diolch Sir Fynwy.
Karen Wood
Nyrs Gofal Cymdeithasol a Rheolwr Gofal Cartref
Dechreuodd Karen ar ei thaith gofal cymdeithasol yn 18 oed a bu’n gweithio mewn ysgol anabledd dysgu. Ar ôl blynyddoedd o ddatblygu, mae hi wedi ennill Nyrs y Flwyddyn Cymru ac wedi gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fel Nyrs ar hyd ei gyrfa.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.