Neidio i'r prif gynnwys

Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol

Mae gwasanaethau cymdeithasol yn helpu i ddal cymunedau yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae gwasanaethau cymdeithasol yn bodoli i roi cymorth sy’n canolbwyntio ar wella llesiant teuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr.

Gwybodaeth am Wasanaethau Cymdeithasol

Mae gwasanaethau cymdeithasol yn bodoli i roi cymorth sy’n canolbwyntio ar wella llesiant teuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr. 

Gall cymorth gynnwys gwaith arbenigol neu aml-asiantaeth, fel gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae Timau Dyletswydd Argyfwng (EDT), timau diogelu a gwasanaethau iechyd meddwl hefyd. Rhoddir cymorth ym mha bynnag leoliad y mae ei angen, felly efallai y bydd gweithwyr cymdeithasol yn eu cael eu hunain yn gweithio mewn cartrefi, ysgolion, ysbytai neu mewn sefydliadau sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol eraill.

Er bod rôl gwasanaethau cymdeithasol yn gymhleth ac yn amrywiol, mae’n seiliedig ar ddarparu gofal a chymorth hanfodol. Maent yn rhoi llais i deuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr, gan greu amgylchedd diogel ac iach sy’n hyrwyddo lles a hawliau dynol.

Y gweithle

Os ydych chi’n awyddus i gysylltu â’ch awdurdod lleol neu sefydliad di-elw i holi am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, mae gwefan GIG 111 Cymru yn cynnwys swyddogaeth chwilio gwasanaethau lleol hwylus. Rhowch eich tref, dinas neu god post i ddod o hyd i wasanaethau lleol.

Archwilio’r rolau y gallwch chi eu gwneud yn y Gwasanaethau Cymdeithasol

Fel Gweithwyr Cymdeithasol, eich nod chi fydd gwella bywydau pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Byddwch chi’n cefnogi pobl drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u lles.

Fel Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasoll byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill i hyrwyddo canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y person ar gyfer unigolion sydd ag anghenion gofal a chymorth ac mewn cymunedau.

Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am y gwasanaeth, gan ddarparu arweiniad a chyfarwyddyd strategol. Byddwch yn sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i blant, teuluoedd a phobl hŷn.

Fel Pennaeth Gwasanaethau Plant neu Oedolion, byddwch yn gosod cyfeiriad, amcanion a nodau strategol, gan sicrhau asesiad proffesiynol o ansawdd uchel, yn cynllunio gofal ac yn darparu gwasanaethau i oedolion a phobl hŷn.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.