Gweithio gydag Oedolion
“Mae’r swydd mor wobrwyol achos rydym yn gallu gweld ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau.”
Izzy Evren, Myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gall gweithio gydag oedolion mewn gofal cymdeithasol fod yn heriol. Ond, i’r person cywir, gall fod yn hynod o werth chweil.
Gweithiwch mewn gofal cymdeithasol i fod yn help i’ch cymuned.
Gweithio gydag oedolion
Mae 65 o swyddi gwahanol ar gael yn gweithio gydag oedolion, o ofal uniongyrchol i oruchwylwyr tîm. Felly, beth bynnag yw’ch cefndir neu eich sgiliau presennol, mae’n siŵr y bydd rhywbeth i chi.
Cliciwch ar y lleoliadau isod i ddysgu mwy.
Straeon go iawn gan bobl go iawn
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Lorna Jones
Rheolwr Cartref Gofal
Ar ôl ymuno â'r sector mewn rôl ran-amser, mae Lorna wedi bod yn gweithio ym maes gofal ers dros 10 mlynedd ond mae'n difaru na wnaeth hi ystyried yn llawer cynt. Ochr yn ochr â’i rôl fel rheolwr Cartref Gofal Meddyg Care i gleifion sydd â dementia yng Nghriccieth, mae’n rhannu ei hangerdd dros y sector trwy ei rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru.
Karen Wood
Nyrs Gofal Cymdeithasol a Rheolwr Gofal Cartref
Dechreuodd Karen ar ei thaith gofal cymdeithasol yn 18 oed a bu’n gweithio mewn ysgol anabledd dysgu. Ar ôl blynyddoedd o ddatblygu, mae hi wedi ennill Nyrs y Flwyddyn Cymru ac wedi gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fel Nyrs ar hyd ei gyrfa.
Abbi-Lee Davies
Pennaeth Gwasanaeth
Mae Abbi-Lee wedi bod yn gweithio yn M&D Care ers saith mlynedd. Dechreuodd fel gweithiwr cymorth cyn cwblhau cynllun Rheolwr Dan Hyfforddiant cyflym, gan ennill ei chymwysterau wrth weithio. Mae hi nawr yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r cartrefi preswyl yn ne-orllewin Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.